Myfyrdodau ar orffennol digidol...
Mae’r crynodebau wedi dechrau dod
i law ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2014, a’r cyntaf i gael sylw ar
ein BlogSpot yw un Judith Winters. Judith yw golygydd Internet
Archaeology, y prif e-gylchgrawn archaeoleg. Bu Internet Archaeology
yn cyhoeddi ar y we ers 1996, gan ddarparu cynnwys academaidd a phrofi
posibiliadau cyhoeddi electronig drwy gyfrwng fideo, awdio, setiau data
chwiliadwy, delweddu, animeiddio a mapio rhyngweithiol. Mae Internet Archaeology
yn cael ei westeia gan Brifysgol Efrog, a chaiff yr holl gynnwys ei archifo’n
llawn gan y Gwasanaeth Data Archaeoleg.

No comments:
Post a Comment